Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir
17 Hydref 2016
SL(5)017 – Gorchymyn Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 (Darpariaethau Canlyniadol) 2016
Gweithdrefn: Negyddol
Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio tri darn o is-ddeddfwriaeth, fel eu bod yn gymwys i gartrefi symudol o dan Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013. Yn bresennol, mae’r tri darn o is-ddeddfwriaeth yn gymwys i gartrefi symudol dan ddeddfwriaeth Senedd y DU, felly mae angen eu diwygio fel eu bod yn gymwys i gartrefi symudol dan Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013.
Deddf Wreiddiol: Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013
Fe’u gwnaed ar: 28 Medi 2016
Fe'u gosodwyd ar: 30 Medi 2016
Yn dod i rym ar: 31 Hydref 2016